SL(6)501 – Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rhan 5 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“Deddf 2017”) yn caniatáu i bersonau penodedig a restrir yn yr Atodlenni i’r Ddeddf rannu gwybodaeth at ddibenion penodol.

Mae adran 56(1) o Ddeddf 2017 yn caniatáu i berson penodedig rannu gwybodaeth â phersonau penodol eraill at ddibenion atal twyll yn erbyn awdurdodau cyhoeddus.

Mae Rhan 2 o Atodlen 8 yn cynnwys rhestr o gyrff Cymreig a bennir at ddibenion adran 56(1).

Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o’r rhestr honno ac yn rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Rheoliadau yn datgan fel a ganlyn mewn perthynas ag Asesiad Effaith Rheoleiddiol:

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. …”

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau yn anghyson. Mae Adran 6 (Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)) yn nodi fel a ganlyn:

“Gan fod y Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau ffeithiol i ddiweddaru is-ddeddfwriaeth ac nad yw’r diwygiadau’n newid y polisi (na’i effaith) mewn unrhyw ffordd arwyddocaol na sut y caiff ei gymhwyso mewn sefyllfa benodol, nid oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae hyn yn unol â'r polisi a nodir yng nghod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer cynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth.  Fodd bynnag, roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) a wnaed i gyd-fynd â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) adeg ei chyflwyno i'r Senedd, yn asesu'r costau a'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â sefydlu'r Comisiwn.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau yn nodi’r canlynol yn adran 2 (Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad):

“Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn dymuno nodi bod y Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 2017.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru i bwynt 1, uchod.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Gorffennaf 2024